Psalms 56

Gweddi un sy'n trystio Duw

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Colomen ar Goed Derw Pell”. Wedi ei hysgrifennu gan Dafydd ar ôl iddo gael ei ddal gan y Philistiaid yn Gath. a

1Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dw i'n cael fy erlid!
Mae'r gelynion yn ymosod arna i drwy'r amser.
2Maen nhw'n fy ngwylio i ac yn fy erlid i'n ddi-baid.
Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn!
O Dduw, y Goruchaf.
3Pan mae gen i ofn, dw i'n dy drystio di –
4Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air!
Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
5Maen nhw'n twistio fy ngeiriau
a dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
6Maen nhw'n dod at ei gilydd i ysbïo arna i.
Maen nhw'n gwylio pob symudiad,
ac yn edrych am gyfle i'm lladd.
7Wyt ti'n mynd i adael iddyn nhw lwyddo?
Bwrw nhw i lawr yn dy ddig, O Dduw!
8Ti'n cadw cofnod bob tro dw i'n ochneidio.
Ti'n casglu fy nagrau mewn costrel.
Mae'r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.
9Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i'n galw arnat ti.
Achos dw i'n gwybod un peth –
mae Duw ar fy ochr i.
10Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air!
Yr Arglwydd – dw i'n gwybod ei fod yn cadw ei air!
11Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
12Dw i'n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw,
a chyflwyno offrymau diolch i ti.
13Ti wedi achub fy mywyd i,
a chadw fy nhraed rhag llithro.
Dw i'n gallu byw i ti, O Dduw,
a mwynhau goleuni bywyd.
Copyright information for CYM